Telerau ac Amodau
Dosbarthu
Nid ydym yn prosesu taliadau am nwyddau nad ydynt yn barod i’w hanfon.
Bydd Cynefin Dyfrdwy yn gwneud ei gorau i anfon yr holl nwyddau o fewn 2 ddiwrnod gwaith i dderbyn eich archeb.
Yn dibynnu ar faint a phwysau’r archeb, caiff ei hanfon drwy’r post, gwasanaeth parseli neu negesydd.
Ar gyfer danfoniadau yn y DU, caniatewch hyd at 5 diwrnod gwaith.
Bydd y rhan fwyaf o nwyddau’n cael eu hanfon drwy ryw fath o ddanfon cofnodedig a bydd angen llofnod ar eu
derbyn.
Gwnewch yn siŵr bod rhywun ar gael i lofnodi am y nwyddau ac os gwelwch unrhyw ddifrod i’r pecynnu, gwnewch nodyn ar bapurau danfon y negesydd a rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Ym mhob achos, oni bai bod gennych y cyfle i agor y parsel ac archwilio’r nwyddau am unrhyw ddifrod cludo cyn i’r negesydd adael, mae’n ddoeth llofnodi “heb ei archwilio”.
Polisi Dychwelyd
Gallwch ddychwelyd nwyddau i Gynefin Dyfrdwy o fewn 14 diwrnod i’w derbyn os, am unrhyw reswm, nad ydych yn fodlon â nhw.
Rhaid cysylltu ag Cynefin Dyfrdwy dros y ffôn o fewn 14 diwrnod i’w derbyn os ydych yn bwriadu dychwelyd unrhyw nwyddau.
Byddwch yn gyfrifol am gostau dychwelyd y nwyddau oni bai eich bod wedi’u derbyn mewn camgymeriad, neu
os oes rhywbeth o’i le â’r nwyddau.
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gwasanaeth danfon cofnodedig.
Dylid dychwelyd nwyddau yn eu pecynnu gwreiddiol a dylid cymryd gofal i sicrhau nad ydynt wedi’u difrodi mewn unrhyw ffordd.
Telerau ac Amodau
Prisiau
Mae Cynefin Dyfrdwy yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl brisiau a gwybodaeth am gynhyrchion mor gywir
â phosibl. Gall prisiau ac argaeledd cynhyrchion newid heb rybudd.
Mae’r holl nwyddau’n cynnwys treth gwerthu’r DU ar 20% lle bo’n berthnasol.
Taliad
Gwneir pob taliad ar-lein trwy weinyddion diogel Stripe.
Ni fydd unrhyw rwymedigaeth gytundebol rhyngoch chi â Chynefin Dyfrdwy i gyflenwi unrhyw gynnyrch i
chi nes bod y nwyddau’n cael eu cludo a’r cerdyn credyd yn cael ei ddebydu.
Bydd unrhyw anghydfodau neu hawliadau sy’n deillio o gontract o’r fath yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Lloegr.
Diogelwch
Mae ein gwefan yn ddiogel. Ni chaiff manylion cardiau credyd eu storio ar-lein. Rydym yn defnyddio systemau
amgryptio SSL ddiogel ar gyfer pob trafodyn fel y gallwch siopa’n dawel eich meddwl.
Ymwadiad
Nid yw Cynefin Dyfrdwy yn gwarantu’n benodol bod y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar y wefan hon yn gywir, yn gyflawn nac yn gwbl gyfredol. Mae Cynefin Dyfrdwy, ei chyfarwyddwyr, ei gweithwyr a’i chynrychiolwyr yn gwadu pob difrod sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan hon neu unrhyw gynnwys a
gwybodaeth sydd wedi’u cynnwys yn y wefan. Mae’r cyfyngiad atebolrwydd hwn yn cynnwys difrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm neu elw, colled neu ddifrod i eiddo a hawliadau trydydd parti, boed yn ymhlyg neu fel arall.
GDPR a’ch preifatrwydd
Cyfeiriwch at ein polisi GDPR am ragor o wybodaeth am sut mae eich data yn cael ei ddefnyddio a’i storio.
Cookies
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i olrhain nifer yr ymweliadau a dderbyniwn. Rydym yn defnyddio Google Analytics at y diben hwn.

