Sut gawn ni ein hariannu?

Gallwn rannu incwm Ymddiriedolaeth Dyfrdwy yn bedwar grŵp yn fras:

Grantiau’r llywodraeth

Mae’r Ymddiriedolaeth yn derbyn amrywiaeth o grantiau gan Lywodraeth Cymru,
Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill. Fel arfer, mae’r grantiau hyn
yn rhan o raglenni ariannu agored, lle mae sefydliadau’n cyflwyno prosiectau i gael eu
hariannu. Mae’r grantiau’n talu’r costau i gyflawni’r prosiectau hyn ac i sicrhau canlyniadau amgylcheddol y cytunwyd arnynt.

Rhoddion

Yn debyg i bob elusen, mae’r Ymddiriedolaeth yn derbyn rhoddion gan gefnogwyr sydd
eisiau helpu i wella’r Afon Dyfrdwy. Rydym yn derbyn rhoddion gan unigolion,
ymddiriedolaethau, clybiau a busnesau, a defnyddir y rhain i gefnogi ein nod o gael Afon
Dyfrdwy heb lygredd sy’n llawn o fywyd gwyllt.

Gwasanaethau

Gofynnir i’r Ymddiriedolaeth gefnogi busnesau, cwmnïau dŵr a pherchnogion tir gyda
phrosiectau sy’n fuddiol i amgylchedd yr afon. Mae’r gwaith yma’n cael ei ddarparu ar werth
y farchnad er mwyn sicrhau bod arian elusennol yn cael ei ddefnyddio er budd y cyhoedd yn
hytrach na rhoi cymhorthdal ​​i brosiectau preifat. Mae unrhyw incwm dros ben yn helpu i
gefnogi gwaith ehangach yr Ymddiriedolaeth.

Ymgymeriadau Gorfodi

Mae pobl yn cysylltu â’r Ymddiriedolaeth i dderbyn cyllid drwy ymgymeriadau gorfodi sy’n
gysylltiedig â digwyddiadau llygredd amgylcheddol.

Mae ymgymeriad gorfodi yn rhan o gytundeb cyfreithiol rhwng rhywun sy’n achosi llygredd
a Chyfoeth Naturiol Cymru neu Asiantaeth yr Amgylchedd. Nid yw Ymddiriedolaeth
Dyfrdwy’n chwarae unrhyw ran yn y penderfyniad am gamau gorfodi na gwerth
ymgymeriad.

Mae’r cyllid a dderbynnir drwy ymgymeriadau gorfodi’n cael ei ddefnyddio i gefnogi
gwelliannau amgylcheddol ymarferol ar draws dalgylch yr Afon Dyfrdwy.

Cyn derbyn cyllid, rydym yn gwneud gwiriadau i’n bodloni ein hunain bod y mater
gwreiddiol wedi’i ddatrys ac nad oes unrhyw debygolrwydd rhesymol y bydd yn digwydd
eto. Os nad ydym yn fodlon bod hynny’n wir, ni fyddwn yn derbyn y cyllid.