Strategaeth ac Effaith
Mae Afon Dyfrdwy yn wynebu amrywiaeth o bwysau sy’n cyfrannu at ddirywiad mewn bywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae Cynefin Dyfrdwy yn gweithio i fynd i’r afael â’r heriau hyn trwy gamau ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n cyflawni gwelliannau parhaol ar draws y dalgylch.
Mae ein strategaeth pum mlynedd yn nodi ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer adfer ffrydiau, afonydd a nentydd
Dyfrdwy ar gyfer bywyd gwyllt a phobl. Ochr yn ochr â hyn, mae ein hadroddiadau effaith blynyddol yn dangos y cynnydd rydym yn ei wneud a’r
gwahaniaeth y mae ein gwaith yn ei wneud ar lawr gwlad.

