Ffermwr / Tirfeddiannwr
A ydych chi’n dirfeddiannwr neu’n ffermwr o fewn dalgylch Afon Dyfrdwy?
Mae Cynefin Dyfrdwy yn cynnig asesiad fferm am ddim a chyfrinachol sy’n edrych ar seilwaith y buarth, iechyd y pridd a cherdded dros y cyrsiau dŵr/ffosydd ar eich tir. Byddwch yn cael adroddiad yn manylu ar arferion da sydd eisoes ar waith, unrhyw argymhellion a fyddai o fudd i ansawdd dŵr, ac a allwn ni eich cefnogi gyda rhai o’r argymhellion hynny trwy ein cynllun grantiau.
Rydym eisoes wedi gweithio gyda chynifer o reolwyr tir ar draws dalgylch Afon Dyfrdwy, yng Nghymru a Lloegr. Rydym wedi ariannu ffensio lle mae ganddo effaith gadarnhaol ar ansawdd dŵr, yn gweithio i wella gwahanu dŵr
glân a budr mewn iardiau fferm, gwelliannau i lwybrau fferm, a gwlypdiroedd mewn ffosydd sy’n caniatáu i lygryddion a gwaddodion setlo cyn mynd i mewn i gyrsiau dŵr. Rydym hefyd yn cefnogi ac yn cynghori tirfeddianwyr gyda’u ceisiadau am gynlluniau amgylcheddol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael asesiad fferm neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â
kate.jones@welshdeetrust.com





