Ffermio’n Ddoeth gyda Dŵr
‘Gweithio gyda’r diwydiant
amaethyddol i leihau colli llygryddion
mewn i gyrsiau dŵr’
Ffermio yw’r defnydd tir mwyaf yn nalgylch Afon Dyfrdwy ac mae’n sail i’n cymunedau gwledig. Bob dydd, mae ffermydd yn rheoli pridd a maetholion i gynhyrchu’r bwyd rydyn ni’n dibynnu arno. Pan gollir yr adnoddau gwerthfawr hyn o’r tir, fodd bynnag, gallant ddod yn llygryddion yn ein hafonydd.
Drwy ein rhaglen Ffermio’n Ddoeth gyda Dŵr, rydym yn gweithio’n gyfrinachol gyda ffermwyr i nodi newidiadau ymarferol a buddsoddiadau wedi’u targedu sy’n cadw pridd a maetholion lle maent yn perthyn ar y fferm ac yn gweithio i’r busnes, nid yn Afon Dyfrdwy.
Rydym yn darparu:
- Cyngor fferm cyfrinachol un-i-un
- Cyllid grant i wella iardiau fferm a gwella iechyd y pridd.
- Cyfleoedd ar gyfer dysgu rhwng cyfoedion drwy ddigwyddiadau fferm a chyfnewid gwybodaeth
Mae ein dull yn darparu manteision i fusnesau fferm ac ansawdd dŵr, gan helpu i greu ffermydd gwydn, sy’n barod ar gyfer y dyfodol ar draws y dalgylch.




