Adfer Cynefin yr Afon
‘Adfer prosesau naturiol a chysylltedd afonydd a nentydd i wella cynefinoedd i bob rhywogaeth’
Mae afonydd a nentydd yn systemau deinamig, wedi’u llunio gan brosesau naturiol fel erydiad, symudiad gwaddod a llifogydd. Mae’r prosesau hyn yn creu ystod o gynefinoedd sy’n cynnal bywyd gwyllt amrywiol.
Ar draws llawer o Afon Dyfrdwy, mae’r prosesau naturiol hyn wedi’u newid gan reolaeth hanesyddol, gan gynnwys
carthu, lledu sianeli, atgyfnerthu glannau caled, cael gwared ar goed wedi cwympo a phori dwys. O ganlyniad, mae llawer o rannau o’r afon wedi dod yn fwy unffurf, gan leihau amrywiaeth y cynefinoedd y mae bywyd gwyllt yn dibynnu arnynt.
Erbyn diwedd 2027, byddwn yn:
- Adfer 40 km o gynefin glan yr afon
- Atgyweirio 60 rhan o gynefin mewn-llif
- Adfer 10 nodwedd gorlifdir
- Datblygu 10 cynllun adfer ar draws y dalgylch
Drwy adfer y cynefinoedd a’r prosesau hyn, gallwn wneud cynnydd sylweddol tuag at Afon Dyfrdwy yn llawn bywyd gwyllt.





